English

 

Draig Werdd
The Welsh Society in Ireland




Cynnwys
  • Croeso
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Digwyddiadau
  • Cylchlythyrau
  • Cysylltwch
  • Bwrdd Negeseuon
  •  


    Amdanom ni

    Ein Hamcanion

    Mae amcanion y grwp yn cynnwys:

    • Codi proffeil Cymru a materion Cymreig yn Iwerddon ymhlith sefydliadau, busnesau ac unigolion drwy ddefnyddio 'r cyfryngau, a chysylltu a sefydliadau gwleidyddol ac unigolion. Mae hyn yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion cyfoes Cymreig ym meysydd gwleiyddiaeth, economeg, iaith, diwylliant a.y.b.

    • Dwyn sylw at gamsyiadau a chamgymeriadau mewn gywbodaeth am Gymru yn y cyfryngau ac ymhlith y boblogaeth yn Iwerddon.

    • Bod yn ddolen gyswllt i basio mlaen i sefydliadau neu unigolion priodol yng Nghymru unrhyw brofiadau Gwyddelig ym meysydd gwleidyddaieth, economeg a diwylliant sydd o ddiddordeb.

    • Meithrin ymwybyddiaeth ac undod gweithredu ymhlith unigolion yn Iwerddon sydd am gyfrannu at ddatblygiant identiti Cymreig dros y mor.

    Does gan Draig Werdd ddim cysylltiad a unrhyw plaid wleidyddol na grwp arall. Caiff ei ariannu drwy gyfraniadau gan aelodau a gweithgareddau codi arian. Croeso i unrhwy berson sy'n rhannu'r amcanion uchod i ymuno.

    Mae Draig Werdd yn trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a nosweithiau cymdeithasol er mwyn hybu amcanion y grwp. Cyhoeddir cylchlythyr i'w ddosbarthu i aelodau a grwpiau eraill sydd a diddordeb.


    Rheolaeth Draig Werdd

    Mae Draig Werdd o dan reolaeth cyfansoddiad ysgrifenedig.  Gyrrwch e-bost at info@draigwerdd.org i dderbyn copi o’r cyfansoddiad.  Mae’r cyfrifoldeb o redeg y gymdeithas gyda’r pwyllgor a etholir yn ein cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mis Medi.  

    Aelodau’r pwyllgor i’r flwyddyn 2005-2006 yw:

    Geraint Waters – cadeirydd a thrysorydd

    Paul Evans – ysgrifenydd

    Keith Young
    Bethan Kilfoil

    Roger Coplestone
    Nan Davies
    Huw Thomas
     

    Mae’n bosib cysylltu ag unrhyw aelod y pwyllgor.  Cliciwch yma i anfon e-bost.


    Ymunwch â Ni

    Mae aelodaeth o Draig Werdd yn rhad ac am ddim. Os hoffech ymuno â'r grwp, cliciwch yma i anfon e-bost atom a byddwn yn cysylltu â chi o fewn ychydig ddyddiau.

     

    Dolennau eraill
  • Côr Cymry Dulyn
  • Fforwm Cymru y Newyn
  • Cylchgronau Gwyddelig- Cymreig
  • Cymdeithasau Cymry Alltud
  •  


    Draig Werdd - the Welsh Society in Ireland

    Diweddarwyd ar 11/12/2006 © Draig Werdd 2003-2006