Llaw dirion
dealltwriaeth
dros y dŵr
yw stori'n cenhadaeth,
dwy law tu draw i ddau draeth
yn dala'r un frawdoliaeth
Dwy law yn
cudio'n dawel,
a dwy law'n
dal dwy wlad yn ddiogel,
y ddwy yn dal, doed a ddêl,
'run gwir ar yr un gorwel.
Mererid Hopwood,
Tyddewi, Awst 2002
|
|
 |
Dolennau eraill |
.gif) |
|
|
|


|