Digwyddiadau
Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol
2007
Bydd Cyfarfod
Cyffredinol Blynyddol (CCB) Draig Werdd yn cymryd lle eleni am
8yh ar
Nos Iau, 4ydd Hydref 2007
lan y grisiau
yn Scruffy Murphy's, wrth Lower Mount Street, Dulyn 2 (gweler map isod). Y CCB
yw eich cyfle i ddweud eich dweud am y gymdeithas, ein hamcanion a'n
gweithgareddau, felly dewch i roi eich barn.
Bydd noson
gymdeithasol yn dilyn y CCB, sydd yn gyfle gwych i chi ddod i nabod aelodau
eraill Draig Werdd, yn enwedig os ydych chi newydd ddod i Iwerddon. Bydd bar ar
gael tan hwyr a darperir brechdanau.
E-bostiwch
info@draigwerdd.org os ydych chi am
gael mwy o wybodaeth am y CCB neu am y gymdeithas yn gyffredinol.

Taith Gerdded - 17/06/2007
'Roedd ein
taith gerdded ym mynyddoedd Wicklow ar ddydd Sul 17eg Mehefin yn achlysur
pleserus dros ben, gyda'r cyfle am ddiwrnod ymarfer mewn amgylchfa
brydferth a chwmpeini da. Arweiniwyd y daith gan y cerddwr
profiadol Dai Horton, ac arweinodd ni trwy'r mynyddoedd o gwmpas
Glenmalure, yn mynd heibio'r llynoedd Art's Lough a Kelly's Lough ar y ffordd.
Diolch i Dai am arwain y daith gyda hiwmor ac amynedd - yr unig ofid oedd bod
Dai yn gadael Iwerddon y penwythnos dilynol, a ni fydd yn gallu ein harwain ar
deithiau cyffelyb yn y dyfodol. Beth bynnag, hoffwn ddymuno pob lwc
iddo fe i'r dyfodol wrth iddo fe ddychwelyd i fyw yng Nghymru.
Mae nifer o
luniau'r dydd i'w gweld yn isod. Cliciwch ar unrhyw lun i'w chwyddo.
Rygbi Tag yn Nulyn - Haf 2007

Mae tim Rygbi Tag Cymry
Dulyn wedi dechrau'r tymor newydd 2007 yn llwyddiannus iawn, wrth ennill
cystadleuaeth y Bowlen ac yn dod yn drydydd mewn cynghrair gymysg y Gwanwyn.
Mae'r tim yn chwarae ar hyn
o bryd mewn dwy gynghrair dros yr haf - y gynghrair i'r dynion ar nos Lun yn
St. Mary's RFC, a'r gynghrair gymysg ar nos Fawrth yn Blackrock RFC.
Ac yn benderfynol o ennill mwy o dlysau, mae tim Cymry Dulyn wedi ennill eu
gemau agoriadol yn y ddau leoliad. Mae'r cynghreiriau yn parhau trwy fis
Mehefin, gyda'r gystadleuaeth derfynol ym mis Gorffenaf.
Am fwy o wybodaeth,
cysylltwch â'r capten Nathan Jones trwy gyfeiriad e-bost Draig Werdd, sef
info@draigwerdd.org .

Prosiect LEXICELT
Mae'r geiriadur ar-lein
Cymraeg-Gwyddeleg Lexicelt yn awr ar gael ar
www.lexicelt.org - mae dolen i'r wefan hon i'w chael o'n tudalen gartref ni.
Amcan LEXICELT yw i ddarparu cymorth i siaradwyr Cymraeg a Gwyddeleg i ddysgu eu
hieithoedd cyfatebol heb ddefnyddio'r Saesneg. Mae stôr o ymadroddion a
geiriadur Cymraeg-Gwyddeleg i'w gael ar-lein yn rhad ac am ddim. Bydd nid yn
unig defnydd dysgu i'w gael ar-lein ond hefyd gwybodaeth am Gymru ac Iwerddon a
fydd yn debyg i gynnau diddordeb am y ddwy wlad Geltaidd a'u diwylliant.
Mae'r prosiect LEXICELT yn
creu cyswllt pwysig rhwng Cymru ac Iwerddon, ac yn enwedig rhwng yr ieithoedd
Cymraeg a Gwyddeleg. Coleg y Brifysgol, Dulyn a'r Brifysgol Cymru, Bangor sydd
yn gyfrifol am y gwaith ac un o aelodau'r tîm yw un o'n haelodau ni, sef Dr.
Dewi Evans.
Prosiect Achyddiaeth y Tri Celtaidd: Yn cysylltu disgynyddion Cymreig gyda’u
gwreiddiau
Oes gennych chi ddiddordeb mewn olrhain eich
achau?
Os oes, efallai gall Catherine
Tudor Jones o Wasanaeth Archifau Gwynedd fod o gymorth. Ar y funud, mae Gwynedd
yn cymryd rhan mewn menter gyffrous o’r enw Prosiect Achyddiaeth y Tri Celtaidd.
Dywedodd Catherine, sef y swyddog sy’n gweithio ar y prosiect “Ein bwriad yw
creu cysylltiadau fel man cychwyn gan weithio tuag at astudiaeth achyddol
ehangach yn y dyfodol”
Sefydlwyd Prosiect y Tri
Celtaidd ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd yng Nghymru a dau archifdy yn Iwerddon
sef Cyngor Dinas Dulyn a Chyngor Sirol Waterford. Cyllidwyd y prosiect gan yr
Undeb Ewropeaidd gyda’r bwriad o ddatblygu’r diwydiant dwristiaeth o dan y teitl
Interreg IIIA.
“Ein gobaith yw sicrhau
manteision economaidd a diwylliannol yn sgil y diddordeb cynyddol mewn hanes
teulu. Gobeithiwn y daw agweddau positif iawn i dwristiaeth leol yng Ngwynedd
wrth gryfhau cysylltiadau achyddol a diwylliannol rhwng y ddwy wlad. Amcan y
prosiect yw annog ymchwilwyr newydd i ymchwilio i agweddau Gwyddelig a Chymreig
o’u llinach Geltaidd”.
Fel rhan gychwynnol o’r prosiect,
cynhaliwyd arolwg i’r diddordeb mewn achyddiaeth ymysg disgynyddion Cymreig ac i
ddarganfod y cyswllt sy’n bodoli rhwng achyddiaeth a thwristiaeth. Anelwyd yr
arolwg tuag at y Cymdeithasau Cymreig ar draws y Byd, a derbyniwyd ymateb
ffafriol iawn. Roedd ymateb yr Americanwyr yn arbennig o galonogol gyda
chanrannau uchel iawn yn dangos diddordeb mewn olrhain eu hachau. Ni ddaw hyn
fel syndod o gysidro’r niferoedd uchel o allfudwyr Cymreig a symudodd i America
yn dilyn ymfudiad enwog Tywysog Madog yn 1188. Ar hyd y blynyddoedd mae’r Cymry
wedi gwneud cyfraniad pwysig i wleidyddiaeth, i ddiwydiant, i lafur, i’r
gyfraith, i gerddoriaeth a chrefydd yn America. Cafodd Bryn Mawr ei ddewis fel
enw ar fferm yn ardal Pensilfania wedi i grŵp o Grynwyr o Wynedd groesi Môr yr
Iwerydd am America. Roedd 20% o dadau’r Pererin yn Gymreig fel oedd capten y
Mayflower. Yn wir, roedd 50% o’r grŵp enwog a arwyddodd Datganiad Annibyniaeth
America yntau yn Gymreig neu o dras Gymreig gan gynnwys Thomas Jefferson.
“Mae 1,753,794 o bobl o
ethnigrwydd Cymreig yn byw yn Unol Daleithiau America yn ôl Cyfrifiad 2000.
Meddyliwch am yr Eisteddfodau, Cymanfaoedd Canu a’r papur newydd Cymreig ‘Ninnau’.
Rydym yn bwriadu targedu'r cymunedau Cymreig a gobeithiwn atynnu Americanwyr o
dras Gymreig yn ôl i’w mamwlad er mwyn cael blas o hunaniaeth a diwylliant eu
cyndadau”.
Fel rhan o’r prosiect cynhaliwyd
sawl cwrs hanes teulu yn Archifdy Dolgellau yn Sir Feirionydd. Y bwriad oedd
addysgu perchnogion gwestai gwely a brecwast a’u hannog i fod yn ymwybodol o’r
adnoddau ar gyfer hel achau sydd ar gael iddynt yn eu hardal. Fel canlyniad,
bydd y perchnogion yn fwy abl i basio’r wybodaeth ymlaen i ymwelwyr a rhannu eu
dealltwriaeth o waith yr archifdy lleol. Yn ystod y misoedd nesaf bydd cyrsiau
pellach yn cael eu cynnal yn Nolgellau a hefyd yng Nghaernarfon ar gyfer bobl o
fewn y sector dwristiaeth sy’n awyddus i ddysgu mwy am ffynonellau sydd ar gael
yn eu harchifdy lleol a thu hwnt.
Bydd gwefan i gyd-fynd gyda’r
prosiect yn cael ei lansio ym mis Awst a fydd yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf
am hel achau. “Fel rhan o’r prosiect ein bwriad yw cefnogi mentrau ieithyddol
Cymreig a Gwyddelig”. O ganlyniad, bydd gwefan sy’n gysylltiedig â’r prosiect yn
defnyddio’r ieithoedd cartref sef Gwyddelig a Chymraeg yn ogystal â Saesneg. Mae
Gwynedd hefyd yn gweithio ar gatalogio casgliadau newydd ac yn sicrhau eu bod ar
gael i ymchwilwyr ar-lein.
Felly os oes gennych
gysylltiadau teuluol yng Ngwynedd neu os y gwyddoch fod perthnasau ichi wedi
mudo i’r Amerig dros y canrifoedd byddai gennym ddiddordeb mawr mewn clywed
unrhyw hanesion. Fel rhan o’r prosiect rydym wedi cynhyrchu arweinlyfr a phecyn
gwybodaeth sy’n rhad ac am ddim. Os hoffech ragor o wybodaeth neu dderbyn copi
o’r pecyn, cysylltwch â Catherine Tudor Jones trwy'r
wefan ar www.triceltaidd.info .

Uchod (o’r chwith i’r dde):
Catherine Tudor Jones a Huw Pierce Pritchard o Wasanaeth Archifau Gwynedd ynghyd
â Fiachra O Ceilleachair - Maer Tref Dungarvan, Y Cynghorydd Gerard Barron -
Maer Sir Waterford a Joanne Rothwell, Archifydd yn Archifdy Sir Waterford ar
achlysur lansio llyfryn Waterford a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect y Tri
Celtaidd.
Gwyl "Rhannu Diwylliant"
Dalkey & Ynys Môn
23-25 Medi 2005
Trefnwyd gwyl hynod o
lwyddiannus o 23-25 mis Medi, 2005, yn Dalkey, swydd Dulyn, Iwerddon gan
y Ganolfan Etifeddiaeth yng Nghastell
Dalkey a'r Swyddfa Cynllun Interreg Dalkey, mewn partneriaeth ag Oriel Ynys Môn, i hyrwyddo cysylltiadau diwylliannol rhwng
Dalkey
ac Ynys Môn.
Estynnodd y gwyl dros dri
diwrnod, ac yn cymryd rhan oedd cynrychiolwyr y celfyddydau o Iwerddon ac o
Gymru. Yn cynrychioli Cymry oedd Côr ABC o Aberystwyth, y grwp dawnsio
gwerin Ffidl Ffadl o Ynys Môn, a nifer o'r beirdd mwyaf blaenllaw yng Nghymru,
gan gynnyws y prifeirdd Myrddin ap Dafydd, Meirion McIntyre Huws, Iwan Llwyd,
Twm Morys ac Ifor ap Glyn.
Gorffennodd yr wyl ar y Sul gyda
pasiant trwy strydoedd Dalkey, oedd yn cynnwys Draig Gymreig a Gafr Dalkey (gan
yr arlunydd Cymreig Toby Downing mewn partneriaeth a'r arlunwyr Valerie Coombes
a John Higgins o Dalkey) yn crwydro eu ffordd lawr Stryd y Castell.
Mi roedd y digwyddiadau o'r
safon uchaf yn gyson trwy'r wyl, a mae'n rhaid llongyfarch y trefnwyr yn llwyr
am hyrwyddo y cyfathrebiad arwyddocaol hwn, ac am roi'r cyfle i bobl Dalkey a'r
cylch i gael blas ar draddodiadau a diwylliant Cymru - rhywbeth sy'n digwydd yn
anaml iawn, er mor agos yw'r ddwy genedl at eu gilydd yn ddaeryddol.
Cliciwch yma
i weld nifer o
luniau o'r digwyddiadau
|