Newyddion
Y Capel Cymraeg yn Nulyn

Ymysg papurau Cyfarfod Misol
Môn a gedwir yn archifdy'r Sir yn Llangefni ceir casgliad hynod o ddiddorol yn
ymwneud â Chapel Cymraeg Talbot Street Dulyn, yr unig gapel Cymraeg a fu yn
Iwerddon ac a ddôi o dan awdurdod Henaduriaeth Môn.
Fel y gellid disgwyl, fel
Achos Cenhadol i’r cannoedd o forwyr Cymreig a ymwelai â’r ddinas y cychwynnwyd
pethau, gan gynnal gwasanaethau yn y gwahanol longau a ddigwyddai fod ym
mhorthladd Dulyn. Teimlid mai pur ddiffygiol oedd y trefniant yma ac ym 1838
adeiladwyd capel yn Talbot Street, heb fod ymhell o ganol y ddinas. Gydag agor
y capel ehangwyd y gynulleidfa i gynnwys y Cymry hynny a weithiai yn y ddinas ei
hun. Er hyn i gyd ‘roedd y naws forwrol yn dal yn gryf. Gelwid y galeri yn
“quarter deck” a dim ond morwyr a gâi eistedd yno. Ar lawr y capel, neu’r
“main-deck” fel y’i gelwid, eisteddai’r dynion ar y “starboard” (yr ochr dde)
a’r merched ar y “port side” (yr ochr chwith). Ceid yno hefyd rai pethau
annisgwyl, fel “spitoons” ger rhai o seddau’r dynion ac ar y dechrau caniateid
smocio.
Ynys o Gymreictod oedd y
capel yng nghanol Dulyn ac ‘roedd hyn yn peri syndod ac edmygedd i’r Gwyddelod,
fel yr esbonia Ernest Blythe, gweinidog cyllid llywodraeth Iwerddon ym 1951:
When I joined
the Gaelic League and began to learn Irish, one of my fellow members told me,
almost with bated breath, that the Welsh community in Dublin had its own church
in which services were conducted in Welsh. I went there one Sunday morning to
revel in the sound of a language closely related to Irish. That little
Welsh-speaking congregation, maintaining its individuality in a foreign city,
made a profound impression on me.
Eto, ‘roedd yno ochr arall
o gofio hanes cythryblus Iwerddon. Er nad ymosodwyd erioed ar aelodau o’r
capel, ‘roedd yna ddrwgdeimlad yn erbyn Protestaniaid yn nyddiau Parnell, yn
enwedig gyda methiant y Mesurau Ymreolaeth, y teimlad cyffredinol ymysg y
Gwyddelod oedd mai’r Protestaniaid a’u gwrthwynebiad oedd un o’r rhesymau dros y
methiant. Yn y cyfnod yma, teflid cerrig at y capel gan falu ffenestri. ‘Roedd
un aelod mor ofnus fel y deuai i’r gwasanaeth gyda refolfer yn ei boced. Yn yr
un modd creodd Gwrthryfel y Pasg ym 1916 drafferthion a bu’n rhaid cau’r capel
am dros wythnos oherwydd yr ymladd. Yn ystod y gwrthryfel, yn ôl y sôn, cafodd
John Lewis y gweinidog fwled drwy gantel ei het.
Er mynd drwy ddyddiau
cythryblus, dal i rygnu ymlaen a wnâi’r capel, er bod nifer yr aeloddau yn mynd
yn llai bob blwyddyn. Ym mis Rhagfyr 1939 penderfynwyd yng Nghyfarfod Misol
Llangefni i gau’r capel dros gyfnod y rhyfel, ‘…oherwydd yr anawsterau sydd ar
ffordd gweinidogion i groesi’r dwr i’w cyhoeddiadau’. Yn Awst 1944 adroddwyd
yng Nghyfarfod Misol Cefn Bach fod y capel wedi ei werthu a dyna ddiwedd ar unig
gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Iwerddon.
Deil adeilad y capel i
sefyll yn Talbot Street. Am gyfnod bu’n siop esgidiau, wedyn yn neuadd snwcer.
Tybed a fyddai’n syniad rhoi plâc ar yr adeilad i nodi beth ydoedd. Beth yw
barn aelodau Draig Werdd am hyn?
Mae’n ddiddorol nodi’r
ffaith hefyd bod un o aelodau Draig Werdd, Howell Evans (sydd newydd ddathlu ei
benblwydd yn 95 oed) yn aelod blaenorol o’r capel. Os oes unrhyw gwestiwn yr
hoffech chi anfon at Howell ynglyn â hanes y capel,
cliciwch yma i anfon neges e-bost atom.
Cliciwch yma
i ddarllen hanes y capel gan Howell ei hun (yn Saesneg), sy’n cynnwys ei
atgofion personol.
(Am ychwaneg o wybodaeth
gweler “Wrth Angor yn Nulyn” gan Huw Llywelyn Williams).
Cymorth Cymraeg i Office 2003
Mae cwmni Microsoft newydd wedi
cyhoeddi cymorth Cymraeg i Office 2003. Gellir ei ddadlwytho o'r we trwy
ddefnyddio'r ddolen isod:
http://www.microsoft.com/downloads/details.aspx?FamilyId=CCF199BC-C987-48F5-9707-DC6C7D0E35D0&displaylang=cy
Cliciwch yma i ddangos datganiad swyddogol Microsoft i'r wasg (yn Saesneg).

Derbyn Rhaglenni Cymreig yn y Weriniaeth
Iwerddon
O
Orffennaf 10, 2003 mae modd derbyn BBC1 Wales a BBC2 Wales drwy loeren Sky
Digital yn Iwerddon. Mae hefyd yn bosib dderbyn ITV1 Wales. Mae holl sianeli teledu a radio digidol eraill y BBC hefyd
ar gael yn rhad ac am ddim. Mae S4C ar gael yn Iwerddon ers tro drwy Sky Digital
(sianel 135).
I
dderbyn y rhaglenni hyn bydd gofyn i chi gael derbynnydd lloeren Sky Digital a
datgodiwr (digibox). Does dim rhaid cael cerdyn gwylio Sky i dderbyn y rhaglenni
uchod. Felly, os oes offer Sky Digital gennych yn barod, dilynwch y
cyfarwyddiadau isod i dderbyn BBC Wales.
Os
nad oes offer Sky Digital gennych yn barod, ond os oes gennych awydd derbyn y
rhaglenni, bydd raid i chi gael dysgl loeren a ‘digibox’. Does dim angen
cytundeb Sky i gael hyn - ond bydd rhaid ich dalu am yr offer.
Dewis arall yw cymryd mantais ar gynnigion arbennig sydd gan Sky,
lle’r ydych yn ymrwymo i dalu am gytundeb Sky am 12 mis, ac yn cael yr offer
am ddim, gan dalu €15 am ei osod. Gellwch derfynu’r cytundeb gyda Sky unrhyw bryd ar ôl y 12 mis. Os gwnewch
hynny, byddwch yn dal i fedru derbyn holl sianeli’r BBC, S4C a rhai sianeli rhad
ac am ddim eraill.
Sylwch na fedrwch dderbyn darllediadau digidol RTE1, Network 2, TV3 na TG4 heb
gytundeb Sky. Ym mhob achos, gyda chytundeb Sky neu beidio, fydd dim modd i chi
dderbyn Channel 4 drwy loeren.
Cysylltwch â Sky TV yn Iwerddon am fwy o
manylion. Eu
rhif ffôn yn Iwerddon yw 0818-719851. Os nad ydych eisiau cytundeb Sky, gellwch
gysylltu â gosodwr teledu digidol drwy’r ‘Golden Pages’ am amcangyfrif o’r gost.
|